13 Gorffennaf ~ Tony Cooper yn penderfynu ymddeol yn gynnar
Mae Tony Cooper, Prif Swyddog Gweithredol yr Asiantaeth Taliadau Gwledig, wedi penderfynu ymddeol yn gynnar am resymau personol a bydd yn gadael yr asiantaeth ddiwedd mis Gorffennaf.
Ymunodd Tony â’r asiantaeth ym mis Mai 2006 fel Prif Weithredwr Dros Dro a chadarnhawyd ei swydd yn bendant ym mis Mehefin 2008.
Wrth siarad am ei benderfyniad dywedodd Tony: “Mae cyflawniadau’r asiantaeth dros y pedair blynedd diwethaf wedi bod yn sylweddol ac rwy’n falch i mi chwarae fy rhan er mwyn sicrhau’r gwelliant hwnnw.
“Hoffwn ddiolch i bob un o’m cydweithwyr yn yr Asiantaeth Taliadau Gwledig am y cymorth a’r gefnogaeth y maent wedi’u rhoi i mi a dymunaf bob llwyddiant i'r Asiantaeth wrth iddi symud ymlaen i'r cam nesaf.”
Bydd Defra yn cyhoeddi enw Prif Swyddog Gweithredol newydd yr Asiantaeth Taliadau Gweledig yn y dyfodol agos.
- diwedd -
Nodiadau i olygyddion
Cyswllt y cyfryngau yn unig: Mel Capper, Swyddfa’r Wasg ATG, 0118 968 7680 melanie.capper@rpa.gsi.gov.uk
Tudalen Cyhoeddwyd: 8 Medi 2010