12 Gorffennaf 2010 ~ GSGP yn lansio gwasanaeth newydd – rhoi gwybodaeth dros y ffôn
Nawr gall ffermwyr roi gwybod am enedigaethau, symudiadau a marwolaethau gwartheg drwy ddefnyddio gwasanaeth ffôn awtomataidd newydd a lansiwyd gan Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP).
Mae’r llinell hunan wasanaeth newydd ar gyfer y System Olrhain Gwartheg (SOG) ar gael 24 awr y dydd i geidwaid gwartheg sydd wedi cofrestru gyda GSGP. Mae’n wasanaeth electronig gwahanol i’r ffermwyr hynny nad ydynt yn medru cael mynediad at y system SOG Ar-lein.
Gall ffermwyr roi gwybod am enedigaethau, symudiadau a marwolaethau cyn belled â bod gan y gwartheg dagiau clust rhif y DU. Bydd yr wybodaeth yn cael ei gwirio tra bydd y ffermwr ar y ffôn, a rhoddir rhif cyfeirnod ar ôl cwblhau pob trafodyn.
Dim ond gwybodaeth sy’n cael ei rhoi gan ffermwyr sy’n ffonio o rif ffôn sydd wedi'i gofrestru ar gyfer eu daliad fydd y system yn ei derbyn. Rhaid i geidwaid barhau i gwblhau manylion y farwolaeth yn y pasbort a’i hanfon at GSGP cyn pen saith niwrnod ar ôl dyddiad y farwolaeth.
Mae’r gwasanaeth newydd* ar gael yn Gymraeg ar 0845 011 1213 ac yn Saesneg ar 0845 011 1212.
I gael rhagor o wybodaeth ac i weld a yw eich rhif ffôn wedi’i gofrestru’n gywir ar gyfer eich daliad, ewch i dudalennau GSGP ar wefan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig (ATG) www.rpa.gov.uk; ffoniwch linell gymorth GSGP ar 0845 050 3456 (Cymraeg) neu 0845 050 1234 (Saesneg); neu anfonwch e-bost at bcms-enquiries@bcms.rpa.gsi.gov.uk
- diwedd -
Nodiadau i olygyddion
1. Newidiodd GSGP ei gyfeiriad post ar gyfer rhai mathau o ohebiaeth yn ddiweddar. Dylech anfon ceisiadau am basbort, cardiau symud a ffurflenni datganiadau gwartheg i BCMS, PO Box 301 Sheffield, S95 1AB, a dylid anfon pasbortau anifeiliaid sydd wedi marw, pasbortau y mae angen eu cywiro a gohebiaeth gyffredinol i BCMS, Curwen Road, Workington, Cumbria, CA14 2DD.
2. Mae Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP) yn rhan o’r Asiantaeth Taliadau Gwledig (ATG) Mae’r Asiantaeth Taliadau Gwledig yn Asiantaeth Weithredol i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra).
Cyswllt y cyfryngau yn unig: Mel Capper, Swyddfa’r Wasg ATG, 0118 968 7680 melanie.capper@rpa.gsi.gov.uk
Tudalen Cyhoeddwyd: 8 Medi 2010