26 Medi 11 ~ Ceidwaid gwartheg yn newid i adrodd electronig
Ceidwaid gwartheg yn newid i adrodd electronig
Roedd Awst yn fis llwyddiannus i’r tîm yng Ngwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP) – rhan o’r Asiantaeth Taliadau Gwledig (ATG) – gyda chyflwyniad y pasbort gwartheg un tudalen newydd yn rhoi hwb i adrodd electronig i fwy nag 81% – 15% yn fwy na’r un adeg y llynedd.
Mae’r rhai sydd heb fynediad i’r rhyngrwyd yn troi’n gynyddol at linell hunan wasanaeth y System Olrhain Gwartheg a ddeliodd â 10,846 o alwadau’r mis diwethaf (bron i ddwbl y nifer a dderbyniwyd yng Ngorffennaf) a chwblhau 20,098 o drafodion llwyddiannus.
Golyga cyflwyniad y pasbort gwartheg un dudalen nad yw’r ATG bellach yn cyflenwi cardiau symudiad yn rhan o’r pasbort, felly bydd angen i geidwaid sy’n defnyddio papur ar hyn o bryd ganfod dulliau eraill ar gyfer anifeiliaid gyda phasbort un dudalen.
Dyma'r dewisiadau:
- Gwefan SOG Ar-lein ( www.bcms.gov.uk )
- I’r rhai sydd heb fynediad i’r rhyngrwyd, mae yna linell ffôn hunanwasanaeth – 0845 011 1212 neu 0845 011 1213 (Cymraeg) – sy’n profi i fod yn ddewis poblogaidd
- Gall rhai pecynnau meddalwedd fferm adrodd ar symudiadau i ffermwyr wrth iddynt ddiweddaru eu cofnodion
- Mae’r ATG hefyd yn gweithio gyda marchnadoedd da byw a lladd-dai i’w hannog i gynnig gwasanaeth adrodd i’w cwsmeriaid
- Mae’n dal yn bosibl defnyddio cardiau symudiad ar gyfer gwartheg gyda phasbort arddull llyfr siec
- Rhaid adrodd symudiadau ar gyfer gwartheg gyda’r pasbort un dudalen newydd yn electronig.
Gwneud cais am basbort gwartheg newydd
- Ni fydd y ceidwaid hynny sydd wedi gwneud cais am 85% neu fwy o’u pasbortau yn electronig yn derbyn Ffurflenni Cais Wedi eu Hargraffu o Flaen Llaw (PPAF)
- Bydd ceidwaid eraill yn parhau i dderbyn y ffurflenni PPAF a gallant ddewis eu defnyddio os dymunant neu newid i adrodd electronig.
Cyhoeddi llawlyfr ceidwaid gwartheg
- Anfonwyd fersiwn wedi ei ddiweddaru o’r llawlyfr Ceidwaid Gwartheg at bob ceidwad yn ystod Gorffennaf ac mae’n cynnwys sampl o’r pasbort un tudalen newydd. Mae ceidwaid gwartheg ledled Cymru, Lloegr a’r Alban yn cael eu hannog i gysylltu â GSGP os nad ydynt wedi derbyn y llawlyfr newydd.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r pasbort gwartheg newydd a sut mae’n effeithio arnoch chi, trowch at
wefan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig
Diwedd...
NODIADAU GOLYGYDDOL
Ynglŷn â’r ATG
- Mae gwaith yr Asiantaeth Taliadau Gwledig yn helpu Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i annog sector amaeth a bwyd ffyniannus a chymunedau gwledig cryf.
- Mae’r RPA yn gwneud taliadau cefnogaeth y Polisi Amaethyddol Cyffredin, yn olrhain da byw ac yn cyflawni archwiliadau. Rydym yn rheoli 60 o gynlluniau, yn talu dros £2 biliwn y flwyddyn i ffermwyr a masnachwyr. I weinyddu ystod mor eang o gynlluniau a bodloni gofynion yr UE, rydym yn rheoli gwybodaeth ar dros ddwy filiwn o barseli tir.
- Mae tair blaenoriaeth strategol yn ysgogi popeth a wnawn; gwasanaeth cwsmeriaid, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd. Mae’r blaenoriaethau hyn yn ein helpu i wella’n perfformiad yn y modd mwyaf cost effeithiol.
Ymholiadau’r Wasg:
Lynne Nasti, Rheolwr Cyfryngau a Chyfathrebu,
Asiantaeth Taliadau Gwledig
Ffôn: 0118 968 7680. E-bost:
lynne.nasti@rpa.gsi.gov.uk
Tudalen Cyhoeddwyd: 6 Hydref 2011