16 Tachwedd 2010 ~ Cofnodi’r ffigwr uchaf erioed ar gyfer gwasanaeth electronig symudiadau gwartheg
Adroddwyd dros 80 y cant o symudiadau gwartheg yn defnyddio gwasanaethau electronig yr Asiantaeth Taliadau Gwledig ym mis Hydref – y ffigwr uchaf erioed i’w gofnodi.
Mae hyn yn cyfateb i adrodd dros un filiwn o symudiadau gwartheg unigol naill ai ar-lein neu’n defnyddio’r llinell ffôn hunanwasanaeth yn ystod y mis. Ac mae ffermwyr hefyd yn lleihau’r gwaith papur pan ddaw i adrodd ar enedigaethau gwartheg – gwnaed dros 78 y cant o’r rhain yn electronig ym mis Hydref.
Mae’r cynnydd, sydd i’w weld yn yr ystadegau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP), yn amlygu effaith y gwasanaethau electronig newydd a ddarparwyd ar gyfer ceidwaid gwartheg.
Mae’r llinell ffôn hunanwasanaeth newydd yn atodiad i’r System Olrhain Gwartheg ar-lein (SOG Ar-lein) a wellwyd yn ddiweddar. Mae'r ddau wasanaeth ar gael pob awr o’r dydd i geidwaid gwartheg sydd wedi cofrestru â GSGP.
Meddai Sue Mellor, Arweinydd Gweithrediadau GSGP: “Mae adrodd electronig yn gyflymach a haws na defnyddio papur. Mae’n arbed amser ac arian ac yn golygu y gall ffermwyr ei wneud pan fo’n gyfleus iddynt, felly mae’n braf gweld cymaint o ffermwyr yn cymryd mantais ohono nawr. Rydym yn gweithio gyda’r diwydiant gwartheg ehangach i geisio cynyddu’r lefel o adrodd electronig am wartheg i 85 y cant erbyn y flwyddyn nesaf.”
Ychwanegodd, “Yn ogystal â genedigaethau a symudiadau, rydym bellach yn canolbwyntio ar adrodd electronig ar gelain. Fe gyflwynwyd hyn ym mis Ebrill ac roedd 29 y cant eisoes yn cael eu hadrodd yn electronig erbyn mis Hydref.”
Bellach mae yna 45 o ladd-dai yn adrodd yn electronig ar farwolaethau ac mae’r Asiantaeth Taliadau Gwledig yn parhau i ymweld ag eraill i arddangos y gwasanaeth electronig ac i’w helpu i’w sefydlu i’w ddefnyddio.
Ceir rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau electronig newydd ar dudalennau GSGP gwefan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig www.rpa.gov.uk, trwy ffonio llinell gymorth GSGP ar 0845 050 1234 (Saesneg) neu 0845 050 3456 (Cymraeg) neu trwy anfon neges e-bost at bcms-enquiries@rpa.gsi.gov.uk.
- diwedd -
Nodiadau Golygyddol
Mae’r Asiantaeth Taliadau Gwledig yn asiantaeth weithredol o Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra). Dyma’r unig asiantaeth taliadau sy'n gyfrifol am gynlluniau CAP yn Lloegr am mae’n gyfrifol am weinyddu Cynllun y Taliad Sengl. Mae gwasanaethau allweddol eraill yn cynnwys cyflawni archwiliadau gwledig ac olrhain da byw.
Mae GSGP yn rhan o’r Asiantaeth Taliadau Gwledig. GSGP yw’r sefydliad olrhain gwartheg arbenigol ar gyfer Prydain Fawr. Ei swyddogaethau yw i:
- gynnal cofrestr o enedigaethau, marwolaethau a mewnforion o wartheg i’w defnyddio i ddibenion iechyd anifeiliaid a rheoli cymorthdaliadau;
- gyhoeddi pasbortau gwartheg;
- gofnodi ble mae gwartheg unigol;
- weithredu Llinell Gymorth unswydd a darparu cyfleusterau ar-lein i gyflenwi ei wasanaethau.
Cyswllt y wasg yn unig: Timma Marett, Swyddog y Wasg RPA, 0118 968 7680
timma.marett@rpa.gsi.gov.uk
Tudalen Cyhoeddwyd: 15 Chwefror 2012