| Gwefannau eraill defra.gov.uk
 
rydych chi yma:

3 Chwefror 2011 ~ Ffermwyr yn troi at wasanaeth electronig i adrodd wartheg


Ffermwyr yn troi at wasanaeth electronig i adrodd wartheg

Fe neidiodd y nifer o enedigaethau gwartheg a gofnodwyd ar wasanaeth electronig yr Asiantaeth Taliadau Gwledig – ar-lein neu dros y ffôn – o 10 y cant yn Rhagfyr 2010.

Dewisodd ffermwyr naill ai ffonio’r llinell ffôn hunan wasanaeth neu ddefnyddio SOG Ar-lein i hysbysu'r Asiantaeth Taliadau Gwledig am 83 y cant o enedigaethau gwartheg yn Rhagfyr 2010 o gymharu â 73 y cant y flwyddyn cynt. Ac fe adroddwyd 80 y cant o symudiadau gwartheg yn electronig yn Rhagfyr 2010 o gymharu â 74 y cant yn Rhagfyr 2009.

Mae’r cynnydd, sydd i’w weld yn yr ystadegau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP), yn dangos bod y gwasanaethau electronig newydd a ddarparwyd ar gyfer ceidwaid gwartheg yn profi i fod yn werthfawr a phoblogaidd.

Meddai Sue Mellor, Arweinydd Gweithrediadau GSGP: “Mae’n galonogol i weld cymaint o ffermwyr yn troi at wasanaethau electronig yn hytrach nag adrodd traddodiadol yn defnyddio papur. Mae ffermwyr yn dweud wrthym ei fod yn gyflymach a haws, yn arbed amser ac arian.”

Fe lansiwyd y llinell ffôn hunan wasanaeth yn haf 2010 ac mae’r ystadegau ar gyfer y chwarter diwethaf eisoes yn dangos cynnydd o 45 y cant mewn galwadau o gymharu â’r chwarter blaenorol.

Ceir rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau electronig newydd ar dudalennau GSGP gwefan newydd yr Asiantaeth Taliadau Gwledig yn www.rpa.gov.uk, trwy ffonio llinell gymorth GSGP ar 0845 050 1234 (Saesneg) neu 0845 050 3456 (Cymraeg) neu trwy anfon neges e-bost at bcms-enquiries@bcms.rpa.gsi.gov.uk.

- diwedd -

Nodiadau Golygyddol
Mae’r Asiantaeth Taliadau Gwledig yn asiantaeth weithredol o Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra). Dyma’r unig asiantaeth taliadau sy'n gyfrifol am gynlluniau CAP yn Lloegr am mae’n gyfrifol am weinyddu Cynllun y Taliad Sengl. Mae gwasanaethau allweddol eraill yn cynnwys cyflawni archwiliadau gwledig ac olrhain da byw.

Mae GSGP yn rhan o’r Asiantaeth Taliadau Gwledig. GSGP yw’r sefydliad olrhain gwartheg arbenigol ar gyfer Prydain Fawr. Ei swyddogaethau yw i:
gynnal cofrestr o enedigaethau, marwolaethau a mewnforion o wartheg i’w defnyddio i ddibenion iechyd anifeiliaid a rheoli cymorthdaliadau;
gyhoeddi pasbortau gwartheg;
gofnodi ble mae gwartheg unigol;
weithredu Llinell Gymorth unswydd a darparu cyfleusterau ar-lein i gyflenwi ei wasanaethau.

Mae’r Asiantaeth Taliadau Gwledig yn gwneud newidiadau i’w gwefan. Y prif newid fydd diddymiad cam wrth gam yr URL – cyfeiriad y wefan www.rpa.gov.uk, sy’n cael ei gyfnewid am rpa.defra.gov.uk.
Byddwn yn creu tudalen ailgyfeirio am gyfnod i sicrhau os bydd ymwelwyr yn defnyddio’r cyfeiriad presennol, byddant yn cael eu hanfon at yr un newydd. Efallai y bydd yn haws creu nod tudalen i’r safle newydd ar gyfer eich ymweliad nesaf. Rydym hefyd yn diweddaru gwedd y safle fel ei fod yn defnyddio’r un templed arddull a gwefan Defra. Mae hyn yn golygu y bydd yr holl wybodaeth ar wefan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig yn cael ei chyflwyno mewn modd ychydig yn wahanol ar y dudalen, ond ni fydd y cynnwys yn newid.

Cyswllt y wasg yn unig: Timma Marett, Swyddog y Wasg ATG, 0118 968 7680 timma.marett@rpa.gsi.gov.uk

Tudalen Cyhoeddwyd: 26 Mawrth 2012