| Gwefannau eraill defra.gov.uk
 
rydych chi yma:
  • Hafan
  • Datganiadau Newyddion
  • 2010
  • 14 Medi 2010 ~ Lleihau gwaith papur i geidwaid gwartheg - GSGP yn cyhoeddi newidiadau yn y System Olrhain Gwartheg (SOG)

14 Medi 2010 ~ Lleihau gwaith papur i geidwaid gwartheg - GSGP yn cyhoeddi newidiadau yn y System Olrhain Gwartheg (SOG)


Mae Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP) wedi cyhoeddi na fydd yn darparu ffurflenni cais papur mwyach i geidwaid gwartheg a fydd yn archebu tagiau clust gwartheg newydd ar-lein o fis 16 Medi 2010 ymlaen. Mae GSGP wedi penderfynu gwneud hyn yn dilyn adborth gan gwsmeriaid, ac fel rhan o'i strategaeth tymor hir i leihau’r pwysau gwaith papur ar ffermwyr.

Bydd y newid hwn yn effeithio ar y ceidwaid gwartheg hynny sydd wedi gwneud cais am y rhan fwyaf o'u pasbortau gwartheg ar-lein yn ystod y 12 mis diwethaf.

Dywedodd Sue Mellor, Arweinydd Gweithrediadau GSGP: Rydym yn datblygu cynlluniau ar draws GSGP i gynyddu'r lefelau cofnodi electronig. Bydd hyn yn lleihau’r baich gweinyddol ar geidwaid gwartheg yn ogystal â lleihau costau gweithredu'r System Olrhain Gwartheg.

“Gyda dros 50% o geidwaid yn gwneud cais am basbortau ar-lein, rydym wedi penderfynu rhoi’r gorau i ddarparu ffurflenni papur i’r cwsmeriaid hyn gan fod amryw o'r ffurflenni yn cael eu gwastraffu. Rydym eisoes wedi lleihau nifer y cardiau symud yn y pasbort, a’r cyhoeddiad hwn yw’r cam nesaf at leihau costau a'n hôl troed carbon.”

Mae’r gwasanaethau ar-lein yn cynnwys SOG Ar-lein, sef gwefan ryngweithiol ddi-dâl GSGP, a phecynnau meddalwedd fferm sy’n anfon gwybodaeth yn uniongyrchol i GSGP.

Ar gyfer ceidwaid heb fynediad i’r rhyngrwyd, mae GSGP newydd lansio llinell ffôn hunan wasanaeth (Cymraeg 0845 011 1213; a Saesneg 0845 011 1212), sydd ar gael 24 awr y dydd. Gellir ei defnyddio i gofrestru genedigaethau gwartheg, ac i gofnodi symudiadau a marwolaethau.

-y diwedd-

Nodiadau i Olygyddion

Caiff ffurflenni papur eu darparu pan fydd ceidwaid gwartheg yn archebu tagiau clust newydd. Mae GSGP wedi gosod targed i godi’r lefelau cofnodi electronig o 75% i 85% erbyn mis Mawrth 2011, ac i wella effeithlonrwydd ac ansawdd data.

Mae’r Asiantaeth Taliadau Gwledig (ATG) yn asiantaeth weithredol i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra). Dyma’r unig asiantaeth dalu ar gyfer cynlluniau PAC yn Lloegr, ac mae hefyd yn gyfrifol am weinyddu’r Cynllun Taliad Sengl. Mae ei gwasanaethau allweddol eraill yn cynnwys cynnal arolygiadau gwledig, ac olrhain da byw.

Cyswllt y cyfryngau yn unig: Mel Capper, Swyddfa’r Wasg ATG, 0118 968 7680 melanie.capper@rpa.gsi.gov.uk

Tudalen Cyhoeddwyd: 28 Hydref 2011