SOG Ar-lein
Beth yw SOG Ar-lein?
SOG Ar-lein yw gwefan di-dâl GSGP sy’n caniatáu i chi wneud y canlynol:
- cofrestru lloi a fagwyd gartref ar-lein;
- cofnodi symudiadau gwartheg i'ch daliad ac oddi ar eich daliad;
- gweld beth yw hanes symudiad anifail unigol;
- cofnodi marwolaeth anifail heb ei gofrestru;
- cofnodi marwolaeth anifail sydd wedi’i gofrestru*
* Rhaid i'r pasbort gwartheg dal i gael eu cwblhau a'u dychwelyd i GSGP o fewn saith diwrnod i ddyddiad y farwolaeth.
Beth arall alla’i wneud ar SOG Ar-lein?
- Gweld manylion unrhyw broblemau gyda ceisiadau pasbortau a symudiadau ar eich daliad.
- Anfon gwybodaeth at GSGP gan ddefnyddio’r rhyngrwyd er mwyn helpu i ddatrys unrhyw broblemau.
- Gweld pob genedigaeth, symudiad a marwolaeth y rhoddwyd gwybod i GSGP amdanynt yn y chwe mis diwethaf;.
- Argraffu derbynneb gyda nifer y trafodion a’r manylion a anfonwyd.
- Gweld hanes eich anifeiliaid o ran geni lloi.
- Gweld y gwybodaeth enw a chyfeiriad a gofnodwyd ar eich daliad.
- Archebu ffurfleni a labeli côd-bar trwy clico botwm.
- Rhoi gwybod am swp o symudiadau i ni yn gyflym gan ddefnyddio'r cyfleuster llwytho.
- Edrychwch ar leoliad unrhyw gysylltiadau ydych wedi'i sefydlu rhwng daliadau ar SOG.
- Cyfleuster i adrodd symudiadau Ar a Marwolaeth mewn un trafodiad drwy'r cyfleuster llwytho i fyny
Pam ddylswn i ddefnyddio SOG Ar-lein?
- Mae'n ffordd hawdd i roi gwybod am eich genedigaethau gwartheg, symudiadau a marwolaethau ar adeg sy'n gyfleus i chi ac fe gewch dderbynneb.
- Mae'n ffordd ddiogel a dibynadwy i anfon gwybodaeth a datrys problemau.
- Mae gwybodaeth yn cael ei wirio am gamgymeriadau cyn i chi ei anfon.
- Gallwch weld y wybodaeth sydd gennym ar gyfer eich daliad a gwirio yn erbyn eich cofnodion eich hun.
- Rydym yn derbyn eich gwybodaeth yn gyflym - gan osgoi oedion y post.
- Mae'n rhad ac am ddim
Sut mae defnyddio SOG Ar-lein?
Gallwch gael mynediad i'r safle drwy Borth y Llywodraeth. Mae hyn yn golygu eich bod yn gallu defnyddio'r un manylion mewngofnodi diogel i gael gafael ar amrediad o wasanaethau defnyddiol y llywodraeth a gwasanaethau sy'n berthnasol i ffermio.
Cyn y gallwch ddefnyddio'r safle newydd, rhaid ichi greu cyfrif ar Borth y Llywodraeth ac yna cofrestru ar gyfer y gwasanaeth SOG Ar-lein. Mae’n broses syml a chyflym, ac ni fydd ond yn cymryd ychydig funudau.
Os ydych eisoes yn defnyddio Porth y Llywodraeth at ddibenion eraill, yr unig beth sydd arnoch angen ei wneud yw cofrestru ar gyfer SOG Ar lein.
Mae cyfarwyddiadau llawn am gofrestru yn cael eu cynnwys yn ein taflenni gwybodaeth. Cliciwch
yma i weld nhw.
Cliciwch
yma i gofrestru ar SOG Ar-lein
---------------------------------------------------------
Tudalen Cyhoeddwyd: 15 Mehefin 2011