| Gwefannau eraill defra.gov.uk
 
rydych chi yma:

3 Mawrth 2011 ~ Newid y pasbort gwartheg o ganlyniad i boblogrwydd gwasanaethau adrodd electronig


Newid y pasbort gwartheg o ganlyniad i boblogrwydd gwasanaethau adrodd electronig

Bydd y pasbort gwartheg yn newid i fod yn ddogfen un dudalen yn yr Haf.

Mae Gweinidogion materion gwledig yng Nghymru, Lloegr a’r Alban wedi cytuno i newid i un ddalen A4 o fis Awst 2011. Mae’r newid yn cael ei gyflwyno wrth i’r gwasanaethau electronig i adrodd ar wartheg – SOG Ar-lein a’r system ffôn hunanwasanaeth – ddod yn gynyddol boblogaidd. Gyda dros 80 y cant o symudiadau bellach yn cael eu hadrodd yn electronig, dywed ffermwyr gwartheg ei bod yn gwneud synnwyr i gynhyrchu pasbort mwy caredig i’r amgylchedd a llai drud.

Mae nifer o opsiynau ar gael i adrodd ar symudiadau, yn cynnwys gwefan SOG Ar-lein a’r llinell ffôn hunanwasanaeth sy’n ddefnyddiol i rai heb fynediad band eang i’r rhyngrwyd. Gall pecynnau meddalwedd ffermydd hefyd adrodd ar symudiadau i ffermwyr wrth iddynt ddiweddaru eu cofnodion. Mae’r Asiantaeth Taliadau Gwledig hefyd y gweithio gyda marchnadoedd da byw a lladd-dai i’w hannog i gynnig gwasanaeth adrodd i’w cwsmeriaid.

Meddai Sue Mellor, Rheolwr Gweithrediadau GSGP:

“Rydym wedi gweld cynnydd aruthrol ym mhoblogrwydd gwasanaethau olrhain gwartheg electronig felly mae’n gwneud synnwyr i gynhyrchu pasbort gwartheg sy’n bodloni anghenion ein ffermwyr.

“Rydym wedi gweithio gyda’r diwydiant, yn cynnwys yr NDA a’r NFU, i gynllunio pasbort newydd sy’n bodloni anghenion ffermwyr. Mae’r pasbort newydd yn rhatach i’w gynhyrchu a bydd yn arbed £1miliwn y flwyddyn. Byddwn hefyd yn gallu anfon mwy nag un pasbort ym mhob amlen, rhywbeth mae ffermwyr wedi bod yn gofyn i ni wneud.”

Meddai Kim Haywood, Cyfarwyddwr Cymdeithas Genedlaethol Cig Eidion

“Mae’r diwydiant wedi bod yn herio’r RPA i leihau costau ers peth amser. Rydym yn falch iawn i weld eu bod yn cyflawni’r newid synhwyrol hwn i leihau costau argraffu a phostio. Byddem yn annog pob ffermwr i arbed eu hamser eu hunain a defnyddio gwasanaethau electronig a ffôn i adrodd genedigaethau, symudiadau a marwolaethau gwartheg.”

Bydd y pasbort ar ei newydd wedd yn cynnwys yr un wybodaeth a’r pasbort arddull llyfr siec presennol ac nid oes unrhyw newid i’r rheolau. Ni fydd yn cynnwys cardiau symudiad rhagdaledig. Bydd angen i geidwaid gwartheg adrodd ar bob symudiad i GSGP o fewn tridiau o hyd.

- diwedd -

Nodiadau Golygyddol
Mae’r Asiantaeth Taliadau Gwledig yn asiantaeth weithredol o Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra). Dyma’r unig asiantaeth taliadau sy'n gyfrifol am gynlluniau CAP yn Lloegr am mae’n gyfrifol am weinyddu Cynllun y Taliad Sengl. Mae gwasanaethau allweddol eraill yn cynnwys cyflawni archwiliadau gwledig ac olrhain da byw.

Mae GSGP yn rhan o’r Asiantaeth Taliadau Gwledig. GSGP yw’r sefydliad olrhain gwartheg arbenigol ar gyfer Prydain Fawr. Ei swyddogaethau yw i:
gynnal cofrestr o enedigaethau, marwolaethau a mewnforion o wartheg i’w defnyddio i ddibenion iechyd anifeiliaid a rheoli cymorthdaliadau;
gyhoeddi pasbortau gwartheg;
gofnodi ble mae gwartheg unigol;
weithredu Llinell Gymorth unswydd a darparu cyfleusterau ar-lein i gyflenwi ei wasanaethau.

Mae’r Asiantaeth Taliadau Gwledig yn gwneud newidiadau i’w gwefan. Y prif newid fydd diddymiad cam wrth gam yr URL – cyfeiriad y wefan www.rpa.gov.uk, sy’n cael ei gyfnewid am rpa.defra.gov.uk.
Byddwn yn creu tudalen ailgyfeirio am gyfnod i sicrhau os bydd ymwelwyr yn defnyddio’r cyfeiriad presennol, byddant yn cael eu hanfon at yr un newydd. Efallai y bydd yn haws creu nod tudalen i’r safle newydd ar gyfer eich ymweliad nesaf. Rydym hefyd yn diweddaru gwedd y safle fel ei fod yn defnyddio’r un templed arddull a gwefan Defra. Mae hyn yn golygu y bydd yr holl wybodaeth ar wefan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig yn cael ei chyflwyno mewn modd ychydig yn wahanol ar y dudalen, ond ni fydd y cynnwys yn newid.

Cyswllt y wasg yn unig: Timma Marett, Swyddog y Wasg ATG, 0118 968 7680 timma.marett@rpa.gsi.gov.uk

Tudalen Cyhoeddwyd: 26 Mawrth 2012