| Gwefannau eraill defra.gov.uk
 
rydych chi yma:

GSGP


Mae Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP) yn rhan o’r Asiantaeth Taliadau Gwledig (ATG). Mae’r ATG yn Asiantaeth Weithredol i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra).

Lleolir y gwasanaeth yn Workington, Cumbria ac fe’i sefydlwyd i reoli’r System Olrhain Gwartheg (SOG). Daeth GSGP yn gwbl weithredol ar 28 Medi 1998 ac unodd gyda’r ATG ar 1 Ebrill 2003.

GSGP yw’r sefydliad olrhain gwartheg arbenigol ar gyfer Prydain Fawr. Dyma ei swyddogaethau:

  • cynnal cofrestr o enedigaethau, marwolaethau a mewnforion gwartheg, cofrestr a ddefnyddir i reoli cymorthdaliadau a iechyd anifeiliaid.
  • cyflwyno pasportau gwartheg;
  • cofnodi lle mae gwartheg unigol;
  • rhedeg Llinell Gymorth arbennig a chyfleusterau ar-lein er mwyn cyflwyno ei wasanaethau.


SOG Ar-Lein
Green indicatorMae SOG Ar-lein yn gweithio fel yr arfer.
Gwasanaethau Gwe SOG
Green indicatorMae Gwasanaethau Gwe SOG yn gweithio fel arfer
EbychnodCofiwch nad yw Gwasanaethau Gwe SOG ar gael gyda’r nos rhwng 7pm - 8pm.
Llinell Hynan Wasanaeth SOG
Green indicatorMae Llinell Hynan Wasanaeth SOG yn gweithio fel yr arfer

Tudalen Cyhoeddwyd: 10 Mehefin 2013